Rhoi gwybod am bryder

Cyn i chi roi gwybod am bryder

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y pwyntiau allweddol sydd angen i chi eu hystyried cyn llenwi'r ffurflen ar-lein i roi gwybod am bryder.

Ein rôl

Ein rôl yw diogelu cleifion a’r cyhoedd a rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddan nhw’n derbyn gofal diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio gwasanaethau fferyllol.

Rydyn ni’n adolygu ac yn asesu'r holl bryderon y rhoddir gwybod i ni amdanyn nhw’n ofalus cyn penderfynu a oes angen i ni ddechrau ymchwiliad.

Yr hyn y byddwn ac na fyddwn yn ymchwilio iddo

Dim ond i bryderon difrifol am fferyllwyr, technegwyr fferyllol neu fferyllfeydd, lle gallai fod risg i ddiogelwch cleifion neu pan fo posibilrwydd y gellid effeithio ar ffydd y cyhoedd mewn fferylliaeth rydyn ni’n ymchwilio.

Gweler ein tudalen 'Ymchwilio i bryderon' (yn agor ar dab ar wahân) i gael rhagor o fanylion am yr hyn y byddwn ac na fyddwn yn ymchwilio iddo.

Pwy arall all helpu

Cyn i chi roi gwybod i ni am bryder, rydyn ni am i chi fod yn siŵr mai ni yw'r sefydliad cywir i gysylltu ag e ynghylch eich mater. Defnyddiwch y ddolen  hon i wirio a ddylech roi gwybod am eich pryder i sefydliad arall yn hytrach na ni (yn agor ar dab ar wahân).

Ydych chi'n rhoi gwybod am bryder ar ran rhywun arall?

Gallwch roi gwybod am bryder ar ran plentyn o dan 18 oed os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad cyfreithiol y plentyn. Os ydych yn rhoi gwybod am bryder ar ran rhywun dros 18 oed, bydd angen i ni gael eu caniatâd i chi weithredu ar eu rhan.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lanlwytho llythyr neu e-bost oddi wrth y person rydych yn gweithredu ar ei ran yn adran atodi’r ffurflen ar-lein, yn rhoi eu caniatâd i chi roi gwybod am y pryder

Y wybodaeth sydd ei hangen arnon ni

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch pan fyddwch yn llenwi ein ffurflen pryderon ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu'n gyflym a fydd angen i ni ymchwilio, a'r ffordd orau o ddechrau ein hymchwiliad.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw'r fferyllydd, technegydd fferyllol neu fferyllfa rydych chi am roi gwybod am bryder yn eu cylch (os ydych chi'n gwybod yr enwau)
  • y dyddiad (neu'r dyddiad yn fras) y digwyddodd y digwyddiad (neu'r digwyddiadau)
  • manylion y digwyddiad – fel y man lle digwyddodd, beth oedd o’i le yn eich barn chi, a’r hyn ddigwyddodd yn ei sgil
  • manylion unrhyw un arall rydych chi wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y pryder hwn
  • copïau electronig (er enghraifft, delweddau wedi'u sganio neu luniau o'ch ffôn) o unrhyw ddogfennau'n gysylltiedig â'ch pryder. (Byddwch yn gallu anfon y rhain aton ni’n nes ymlaen os nad ydyn nhw gennych chi nawr)

Os oes gennych anghenion cyfathrebu penodol neu gwestiynau ynghylch llenwi'r ffurflen, ffoniwch ni ar 020 3713 8000.

Pwysig: Nid oes modd arbed y ffurflen a dychwelyd ati’n ddiweddarach, felly sicrhewch bod gyda chi bopeth sydd ei angen cyn dechrau.

Angen gwybod mwy cyn bwrw ymlaen? Defnyddiwch y dolenni canlynol i weld manylion llawn:

Mae'n bwysig eich bod yn deall sut rydyn ni’n ymchwilio ac yn rheoli pryderon cyn rhoi gwybod am bryder. Defnyddiwch y dolenni isod i wneud hynny: (mae'r holl ddolenni isod yn agor ar dabiau ar wahân):

Wedi i chi ddysgu mwy am y broses, gallwch fwrw ymlaen i lenwi'r ffurflen hon:

Rwy’n barod i roi gwybod am bryder