Rydym yn rheoleiddio fferyllwyr, technegwyr fferyllol a fferyllfeydd ym Mhrydain
Rydym yn gweithio i sicrhau a gwella safonau gofal ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau fferyllol. Ein rôl yw diogelu’r cyhoedd a rhoi sicrwydd iddynt y byddant yn derbyn gofal diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio gwasanaethau fferyllol. Rydym yn gofyn i weithwyr fferyllol proffesiynol am dystiolaeth eu bod yn parhau i gyrraedd ein safonau, ac mae hyn yn cynnwys arolygu fferyllfeydd.
Fel y noda Gorchymyn Fferyllol 2010, un o’n tasgau yw ymchwilio i bryderon ynghylch fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol a allai awgrymu bod risg i ddiogelwch cleifion neu a allai effeithio ar ffydd y cyhoedd mewn fferylliaeth. Rydym hefyd yn delio gyda phryderon am fferyllfeydd.
Rydym yn casglu’r wybodaeth a gyflwynir i ni yn ddiogel ac yn adolygu ac asesu pob pryder yn ofalus er mwyn ystyried a oes angen i ni agor ymchwiliad.
Gallai pethau y byddech am adrodd amdanynt i’r CFfC gynnwys yr enghreifftiau canlynol:
Ymddygiad amhroffesiynol neu amhriodol difrifol
Rhaid i weithwyr fferyllol proffesiynol ddangos parch at eraill a chynnal ‘ffiniau proffesiynol’ priodol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i helpu gweithwyr fferyllol proffesiynol i gyrraedd ein safonau.
Camgymeriadau wrth gyflenwi meddyginiaethau
Gallai camgymeriadau cyflenwi gynnwys rhoi meddyginiaeth sy’n hŷn na’r dyddiad defnyddio neu wedi ei phecynnu neu ei labelu’n anghywir. Gallai hefyd gynnwys derbyn y cynnyrch neu’r feddyginiaeth anghywir neu’r dos anghywir.
Ymddygiad troseddol
Efallai y bydd gweithiwr fferyllol proffesiynol wedi derbyn rhybudd neu gollfarn troseddol. Efallai na fydd pob rhybudd neu gollfarn troseddol o anghenraid yn ymwneud â’u gwaith neu’n golygu ein bod yn agor achos “addasrwydd i ymarfer”, ond mae angen i ni wybod amdanynt.
Anonestrwydd neu dwyll
Gallai anonestrwydd ddisgrifio nifer fawr o faterion – er enghraifft, dwyn neu hawlio tâl salwch tra’n gweithio. Gallai twyll olygu hawlio arian yn anghywir o’r GIG neu gyrff eraill.
Gweithio dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
Nid yw camddefnyddio cyffuriau o anghenraid yn golygu cyffuriau anghyfreithlon. Gellir cam-drin meddyginiaethau presgripsiwn a sylweddau cyfreithlon eraill. Mae angen i ni wybod am sefyllfaoedd lle gallai risg i gleifion fodoli am fod gweithiwr fferyllol proffesiynol yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
Bod â chyflwr iechyd sy’n effeithio ar allu i ymarfer yn ddiogel
Os oes gan fferyllydd neu dechnegydd fferyllol gyflwr meddygol a allai effeithio ar y ffordd mae’n gweithio, efallai y bydd angen i ni ymchwilio a ydyw’n gallu gweithio’n effeithiol.
Gweithio heb fod yn gofrestredig
Rhaid i weithwyr fferyllol proffesiynol fod ar gofrestr y CFfC cyn gallu cyflawni eu dyletswyddau’n gyfreithlon. Mae angen i ni wybod os ydych yn amau bod rhywun yn gweithio neu’n hawlio ei fod yn fferyllydd neu’n dechnegydd fferyllol heb fod ar y gofrestr.
Pryderon wedi eu mynegi gan weithwyr proffesiynol
Os ydych yn weithiwr fferyllol proffesiynol sydd yn mynegi pryder am rywun neu rywbeth yn eich gweithle, darllenwch ein canllawiau ar gyfer chwythwyr chwiban.
Hyfforddiant ac addysg gweithwyr fferyllol proffesiynol
Mae gennym broses ar wahân ar gyfer mynegi pryderon yn ymwneud â hyfforddiant ac addysg gweithwyr fferyllol proffesiynol – cwblhewch y ffurflen pryderon hyfforddiant ac addysg.
Pryderon wedi eu mynegi gan gyflogwyr ac asiantaethau locwm
Os ydych yn gyflogwr neu’n asiantaeth locwm darllenwch: Ystyried adrodd am bryder? Canllaw ar gyfer cyflogwyr ac asiantaethau locwm