General Pharmaceutical Council

GPhC launching: 2010

Home > Cymraeg

Cymraeg

Dyma wefan dros dro y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (y Cyngor), sef y corff rheoleiddio newydd i fferyllwyr, technegwyr fferyllfa a fferyllfeydd o wanwyn 2010 ymlaen.

Mae'r wefan wedi ei chynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarllenwyr am y newidiadau yn y ffordd y caiff fferyllfeydd eu rheoleiddio yn y cyfnod hyd at lansio'r Cyngor.

Tan hynny Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr fydd yn parhau'n gyfrifol am reoleiddio.

Mae'r wefan yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

  • sut mae'r ffordd y caiff fferyllfeydd eu rheoleiddio yn newid
  • strwythur a chylch gorchwyl y Cyngor newydd
  • effaith sefydlu'r Cyngor ar gleifion a'r cyhoedd
  • effaith sefydlu'r Cyngor ar y bobl broffesiynol ym maes fferylliaeth
  • sut y gall rhanddeiliaid ddylanwadu ar y ffordd y caiff y Cyngor ei ddatblygu, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau
  • adnoddau a chymorth
  • newyddion.

O wanwyn 2010 ymlaen, bydd gwefan y Cyngor ar gael yn Gymraeg yn ogystal รข Saesneg.