Rhoi gwybod am bryder

 

Efallai y bydd angen hyd at 30 munud i lenwi’r ffurflen hon; mae angen i chi lenwi'r ffurflen ar un tro, gan nad oes opsiwn arbed cynnydd a dychwelyd i orffen y ffurflen yn nes ymlaen ar gael ar hyn o bryd.

 

Eich manylion

Mae'r adran hon yn ymwneud â chi, y person sy'n rhoi gwybod am y pryder.

Os ydych yn rhoi gwybod am bryder ar ran rhywun arall, byddwn yn gofyn i chi am eu manylion (neu fanylion eu rhiant neu warcheidwad, os ydyn nhw o dan 18 oed) yn ddiweddarach yn y ffurflen. 

Pwysig: Nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt i ni os nad ydych yn dymuno. Fodd bynnag, os na allwn gysylltu â chi na chadarnhau'r wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni mewn unrhyw ffordd arall, efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio i'ch pryder.

Rhowch eich enw i ni

Cysylltu â chi

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, fel arfer. Rhowch eich cyfeiriad e-bost isod, neu rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych ein bod yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy'r post yn unig.

Anghenion cyfathrebu
Math o bryder

Mae’r mathau mwyaf cyffredin o bryderon rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw wedi eu nodi isod. Cliciwch ar ‘Cymorth' ar waelod y rhestr i gael rhagor o fanylion am ystyr y mathau cyffredin hyn o bryderon.

Dewiswch gynifer ag sy'n berthnasol i'n helpu i adnabod y mater sy'n cyfateb orau i'r pryder yr hoffech roi gwybod amdano.

Y gweithiwr fferyllol proffesiynol

Mae gweithwyr fferyllol proffesiynol yn fferyllwyr neu'n dechnegwyr fferyllol sydd wedi'u cofrestru gyda'r CFfC. I weld a yw person wedi cofrestru gyda'r CFfC, gallwch wirio ein cofrestr (yn agor ar ffenestr ar wahân)

Y fferyllfa

Defnyddiwch ein cofrestr (yn agor mewn ffenestr ar wahân) i ddod o hyd i fanylion llawn y fferyllfa.

Eich pryder
Rhoi gwybod am bryder ar ran rhywun arall
Rhowch eu henw a'u manylion cyswllt

Os yw’r pryder yn ymwneud â phlentyn o dan 18 oed, efallai mai manylion y rhiant neu warcheidwad yw hyn.

Efallai y bydd gennym ambell gwestiwn am y pryder, neu efallai y bydd angen i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd os bydd achos yn cael ei agor. Rhowch wybod i ni pwy fyddai orau i gysylltu a nhw â'r wybodaeth hon

Os ydych yn rhoi gwybod am bryder ar ran rhywun arall, ac wedi gofyn i ni gyfathrebu â chi amdano, cofiwch lanlwytho llythyr caniatâd wedi'i lofnodi gan y person hwnnw. Gallai hyn fod yn e-bost neu'n ddogfen o fath arall. Fel arall, byddwn yn cysylltu â'r person arall.
Dewisiadau cyfathrebu