O dan Orchymyn Fferylliaeth 2010 mae rhai eitemau y mae’n rhaid i ni adrodd yn eu cylch fel rhan o’r broses o ddangos ein hatebolrwydd i’r Senedd.
Rhaid i ni gyhoeddi adroddiadau a chyfrifon blynyddol a’u cyflwyno i Swyddfa’r Cyfrin Gyngor i’w rhoi gerbron yn Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Rhaid i ni gyhoeddi:
- adroddiad blynyddol ar sut yr ydym wedi cyflawni ein gwaith, yn cynnwys y trefniadau sydd gennym i sicrhau arfer da mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth
- adroddiad ystadegol sy’n dangos effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein trefniadau ar gyfer diogelu’r cyhoedd rhag cofrestredigion y mae amhariad ar eu cymhwyster ymarfer. Mae’r adroddiad yn cynnwys disgrifiad o’r trefniadau sydd ar waith a sylwadau’r Cyngor ar yr adroddiad
- cyfrifon blynyddol, ar ffurf a bennir gan y Cyfrin Gyngor
- adroddiad ein harchwilwyr allanol ar ein cyfrifon
- Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ddiwallu’r anghenion hyn.
Mae’r Cyfrin Gyngor wedi cyhoeddi ‘penderfyniad cyfrifon’ sy’n egluro beth sy’n rhaid i ni ei gynnwys wrth baratoi ein cyfrifon blynyddol. Mae’r penderfyniad cyfrifon yn atodiad 1 ein datganiadau ariannol. Paratowyd ein cyfrifon yn unol â’r penderfyniad hwnnw.
Fel corff a ariennir gan ffioedd aelodau cofrestredig ac sy’n annibynnol ar lywodraeth, nid yw canllawiau’r trysorlys ar reoli arian cyhoeddus yn berthnasol i ni. Fodd bynnag, rydym am ddilyn arfer gorau, o ran bod yn dryloyw ac wrth gyfathrebu â’r cyhoedd, sef ein prif randdeiliaid. Rydym felly wedi ceisio cadw ein hadrodd mor glir a syml â phosibl, gyda chyn lleied â phosibl o ddyblygu.
Rydym wedi darparu datganiad trefn lywodraethu gan y Prif Weithredwr a Chofrestrydd. Mae hwn yn sôn am systemau sydd gennym i gefnogi strategaeth ac amcanion y Cyngor, tra hefyd yn diogelu asedau’r sefydliad. Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys adolygiad y Prif Weithredwr o effeithiolrwydd ein systemau rheolaeth fewnol.